Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-01-13 papur 8

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ionawr - Chwefror 2013

 

At:                                 Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gan:                               Gwasanaeth y Pwyllgorau

Dyddiad y cyfarfod:    10 Ionawr

Diben

1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.

Cefndir

2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd at doriad hanner tymor mis Chwefror.

 

3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.

 

4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.

Argymhelliad

5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.

 

 


DYDD IAU 10 IONAWR 2013

 

Bore a phrynhawn

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

 

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*

Briffio ffeithiol

Ystyried cyngor gan arbenigwyr

 

Cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) – rheoliadau drafft

Briffio preifat

 

DYDD MERCHER 16 IONAWR 2013

 

Bore yn unig

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*

Ystyried cyngor gan arbenigwyr 

 

DYDD IAU 24 IONAWR 2013

 

Bore a phrynhawn

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

DYDD MERCHER 30 IONAWR 2013

 

Bore yn unig

 

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)*

Cyfnod 1 – Y dull o graffu 

 

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

DYDD IAU 7 CHWEFROR 2013

 

Bore a phrynhawn

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Ystyried y materion allweddol (preifat)

 

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

 

Dydd Llun 11 Chwefror – Dydd Sul 17 Chwefror 2013: Toriad yr hanner tymor

 

 

*Noder fod yr eitemau hyn yn dibynnu ar ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan yr Aelodau priodol sy’n gyfrifol ac yn cael ei hail-gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o’r gwaith o graffu yng Nghyfnod 1.